Teitl y grŵp trawsbleidiol: |
Heddwch a Chymod |
Dyddiad y cyfarfod: |
10 Hydref 2022 |
Lleoliad: |
Zoom
|
Enw: |
Enw: |
Mabon ap Gwynfor AS
|
Mererid Hopwood (Ysgrifenyddiaeth) |
Hayley Richards |
Jill Evans
|
Jane Harries |
Awel Irene
|
Siôn Edwards (cyfieithydd y Senedd) |
Gethin Rhys
|
Gwyn Williams |
|
|
|
Enw: |
Enw: |
Peredur Owen Griffiths AS |
|
Peter Cutts |
|
|
|
Cofnodion a materion yn codi CAM I’W GYMRYD: Y Cadeirydd i ysgrifennu at holl Gyfarwyddwyr Addysg ledled Cymru yn tynnu eu sylw at y Cynllun Ysgolion Heddwch a sut y gall gefnogi’r broses o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd. CAM I’W GYMRYD: Y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn am unrhyw ganllawiau a roddir i gyrff allanol, fel y fyddin, sy'n ymweld ag ysgolion Cymru er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn dryloyw a bod disgyblion yn cael eu hannog i ofyn cwestiynau beirniadol.
Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r 2 gam gweithredu hyn yn cael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn. Canmolodd Mererid un Ysgol Heddwch, Ysgol Bro Myrddin, a sicrhaodd fod Cyngor Tref Caerfyrddin yn chwifio baner heddwch o'r prif adeilad ar Ddiwrnod Heddwch y Byd https://www.facebook.com/cyngortrefcaerfyrddincarmarthentowncouncil/posts/cynghorydd-emlyn-schiavone-siryf-tref-caerfyrddin-yng-ngwasanaeth-diwrnod-heddwc/413996484205190/ Trafodwyd yr ail gam gweithredu, a rhannodd Jane Harries ddolenni’r Adroddiad a gynhyrchwyd gan Gymdeithas y Cymod (CyC), yr Undeb Adduned Heddwch a ForcesWatch ar Recriwtio pobl ifanc i'r Fyddin mewn Ysgolion: Yn Saesneg: https://drive.google.com/file/d/1htTpcwKmGu0jl0oIRQUUs3ga5oas1giX/view?usp=sharing Ac yn Gymraeg: https://drive.google.com/file/d/1AXML7T7PDOeNe8DT46skqZ2WaI7bpfXq/view?usp=sharing. Mae argymhellion 2, 3 a 5 yn berthnasol iawn. Mae CyC yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yw llunio canllawiau ar gyfer cyrff allanol sy'n ymweld ag ysgolion yng Nghymru, gyda chanllawiau penodol o ran y lluoedd arfog, o ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â gyrfa gyda nhw. Mae CyC yn gobeithio y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i ofyn cwestiynau beirniadol, yn unol â'r math o sgiliau sy'n cael eu hyrwyddo gan y Cwricwlwm i Gymru. Mae argymhelliad hefyd y dylid hyrwyddo addysg heddwch mewn ysgolion. Trafodwyd hyn gan y Pwyllgor Deisebau ond ni chymerwyd unrhyw gamau. Lluoedd arfog yn recriwtio mewn ysgolion? (senedd.cymru)
CAM I’W GYMRYD: Y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau (Jack Sargeant) yn gofyn am ddiweddariad ynghylch a wnaeth Llywodraeth Cymru ymgymryd â'r argymhellion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor. CAM I’W GYMRYD: Y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddo pryd y gallai gwrdd â'r grŵp trawsbleidiol yn y flwyddyn newydd
Heddwch ac Iechyd Rhoddodd Mererid grynodeb o gynhadledd heddwch ac iechyd Academi Heddwch Cymru (AHC), a gynhaliwyd ar-lein ar 31 Mawrth 2022. Roedd y gynhadledd wedi’i chyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn cynnwys 7 panel yn trafod gwahanol agweddau ar heddwch ac iechyd, gan gynnwys cyfiawnder, yr amgylchedd, dŵr, iaith, dychymyg, treftadaeth a mudo. Gallwch weld recordiadau o'r gynhadledd hon yma: https://www.youtube.com/watch?v=FI9phvFgUsE&list=PLuBByzmU3OtEfWRRTaVj0Uj-vl4ZJyQp_ Trafododd y grŵp heddwch, pensaernïaeth, peirianneg a'r system gynllunio a sut y gellid defnyddio hon fel arf i gefnogi heddwch rhwng pobl e.e. yn Fienna, mae heddwch yn ganolog i’r dull gweithredu o ran tai cymdeithasol a chynllunio trefol. Teimlwyd bod hyn o fewn cymhwysedd y Senedd. Canmolodd Awel y ddarlith a rhoddodd Mererid yn ddiweddar i Gymdeithas Waldo. Trafodwyd heddwch ac iechyd meddwl a chefnogaeth i gyn-filwyr sy'n dioddef o PTSD – maes trafod posibl ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. Roedd y Cadeirydd yn awyddus i ddatblygu rhaglen waith i'r dyfodol yn casglu tystiolaeth ar heddwch ar draws y themâu hyn.
Academi Heddwch Cymru (cysylltiadau rhyngwladol) Soniodd Jill am gyfarfod diweddar Rhwydwaith Sefydliadau Heddwch yr UE ym Mrwsel a oedd hi a Mererid wedi mynychu ar ran Academi Heddwch Cymru. Trefnwyd hwn gan Sefydliad Heddwch Fflandrys. Mae modelau pob sefydliad heddwch yn wahanol o ran cyllid, gweithredu a blaenoriaethau ymchwil. Bydd y rhwydwaith yn cyfarfod unwaith eto flwyddyn nesaf i edrych ar ystyr heddwch/ail-ddychmygu heddwch/ailfeddwl y cysyniad o ddiogelwch. Bydd canolbwyntio hefyd ar gynnwys pobl ifanc yn y ddeialog hon. Wrth symud ymlaen, mae AHC yn bwriadu edrych ar arfer da mewn addysg heddwch a chefnogi datblygu hwn ymhellach. Mae lle hefyd i gynnal digwyddiad yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel ar gyfer cynrychiolwyr o genhedloedd eraill. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu statws Cymru a’i rôl o ran heddwch. Mae AHC yn awyddus i ystyried digwyddiadau mewn swyddfeydd eraill y Llywodraeth e.e. yn Washington, fel rhan o Brosiect Deiseb Heddwch Menywod Cymru, ac fel rhan o’r flwyddyn ‘Cymru yn Ffrainc’ y flwyddyn nesaf. Nododd Awel fod ymgyrchwyr heddwch o Wcráin wedi sôn am bwysigrwydd addysg heddwch yn ysgolion Wcráin wedi'r rhyfel. Soniwyd hefyd am gysylltiadau rhyngwladol eraill, er enghraifft gyda Kerala yn India a phrosiect Erasmus Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, sy'n darparu deunyddiau hyfforddi athrawon ar gyfer athrawon yn Rwmania, Slofenia a Thwrci. Soniodd Mererid am y deunyddiau SDGs4U a ddatblygwyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru a’r gwaith i ddarparu llwybr at heddwch trwy gydol y system addysg.
Dyddiad a phwnc y cyfarfod nesaf Dydd Llun, 5 Rhagfyr, 12.00-1.00 yn y prynhawn, drwy Zoom Cofrestrwch o flaen llaw ar gyfer y cyfarfod hwn: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZAud-iqrD0tE9BvuR5CCp9fTLRCUmFKTmed Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ymuno trwy e-bost. Pwnc – naill ai pobl ifanc a heddwch (os yw’r Llysgenhadon Heddwch Ifanc ar gael) neu gynllunio a heddwch.
CAM I’W GYMRYD: Jane i gysylltu â’r Llysgenhadon Heddwch Ifanc i’w gwahodd i gyfarfod ar 5 Rhagfyr.
Crynodeb o’r Pwyntiau Gweithredu
CAM I’W GYMRYD: Y Cadeirydd i ysgrifennu at holl Gyfarwyddwyr Addysg ledled Cymru yn tynnu eu sylw at y Cynllun Ysgolion Heddwch a sut y gall gefnogi’r broses o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd. CAM I’W GYMRYD: Y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn am unrhyw ganllawiau a roddir i gyrff allanol, fel y fyddin, sy'n ymweld ag ysgolion Cymru er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn dryloyw a bod disgyblion yn cael eu hannog i ofyn cwestiynau beirniadol. CAM I’W GYMRYD: Y Cadeirydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau (Jack Sargeant) yn gofyn am ddiweddariad ynghylch a wnaeth Llywodraeth Cymru ymgymryd â'r argymhellion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor. CAM I’W GYMRYD: Y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddo pryd y gallai gwrdd â'r grŵp trawsbleidiol yn y flwyddyn newydd CAM I’W GYMRYD: Jane i gysylltu â’r Llysgenhadon Heddwch Ifanc i’w gwahodd i gyfarfod ar 5 Rhagfyr.
|